Proffeil Bersonol, Mewnwelediad Broffesiynol: Dewch i gwrdd â Rob Thomas, Partner Treth


22nd April 2024

Bellach wedi ymgartrefu yn nhrefgordd arfordirol Gymreig Talacharn, sydd yn enwog am ei gysylltiad â’r bardd Dylan Thomas, mae gorchwylion beunyddiol Rob Thomas yn wahanol iawn i Lundain brysur, lle fireiniodd ei sgiliau fel cyfreithiwr treth gorfforaethol am dros ddegawd. “Rwyf bob amser yn jocio –  os y gallaf ddygymod â’r llwybr arfordirol garw a’r glaw trwm sydd yma, neu oroesi noson yn y dafarn gyda’r bobl leol, mae strwythuriad treth gorfforaethol yn hawdd,” mae’n chwerthin.

Cychwynodd taith Rob i gyfraith oherwydd chwilfrydedd a chyfle. Magwyd Rob mewn teulu Cymraeg yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin, a denwyd ef i’r proffesiwn i ddechrau trwy waith ei dad fel cynghorydd ariannol gyda chyfreithwyr lleol. Ond dychmygodd erioed y byddai’n glanio yn Llundain neu y byddai’n arbenigo mewn treth gorfforaethol.

“Rwy’n cofio cael fy nghodi o’r ysgol a threulio oriau yn swyddfa fy nhad. Y dinoethiad cynnar hwnnw i’r byd cyfreithiol a enynnodd fy niddordeb,” mae Rob yn cofio. Roedd ei dalent am ddrama – wedi’i fireinio mewn Eisteddfodau di-rif – a’i ddawn am siarad cyhoeddus yn awgrymu dyfodol yn y llys, ond roedd gan fywyd gynlluniau eraill.

Gan ddewis astudio’r gyfraith ym Mhrifysgol Bryste, cychwynnodd Rob ar yrfa a aeth ag ef i galon ardal gyfreithiol Llundain. Cynigiodd yr ymfudiad gynfas eang i Rob i ddatblygu ei brofiad fel cyfreithiwr a’i arbenigedd yng nghymhlethdodau cyfraith treth.

“Rhoddodd hyfforddiant yn Llundain gyfle i mi nad oeddwn erioed wedi disgwyl ymgolli fy hun yn llwyr yn ei ddiwylliant amrywiol a rhyngwladol. Roedd hefyd yn caniatáu i mi weithio ar rai o drafodiadau corfforaethol mwyaf arloesol y farchnad. Serch hynny, roeddwn i bob amser yn dyheu am gartref a gwyddwn fod fy nghalon yn perthyn i Gymru,” meddai.

Mae ei ddychweliad i Gymru, penderfyniad a sbardunwyd gan ddymuniad i gydbwyso cyflawniad proffesiynol a bywyd teuluol, wedi’i wneud yn gynghorydd â galw mawr amdano yn Blake Morgan ar gyfer sylfaen cleientiaid amrywiol, o gorfforaethau rhyngwladol i egin entrepreneuriaid.

Nawr, fel partner ifanc, mae Rob yn teimlo’n angerddol dros feithrin y genhedlaeth nesaf o dalent gyfreithiol. Mae ei agwedd at fentora yn debyg iawn i’w agwedd at gyfraith treth: clir, pragmatig, a bob amser â llygad ar y dyfodol.

“Un o’r pethau rwy’n ei fwynhau fwyaf am gyfraith treth yw ei fod yn faes sy’n datblygu o hyd, sy’n golygu dysgu a datblygu parhaus. Ar ôl bod yn ddigon ffodus i gael rhai mentoriaid gwych trwy gydol fy ngyrfa, a oedd bob amser yn hael gyda’u hamser, rwyf hefyd yn ei weld fel rhan allweddol o fy rôl i fentora ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf,” mae’n nodi.

Cawsom sgwrs â Rob i ddysgu mwy am ei yrfa, ei gymhellion a’i gyngor i ddarpar gyfreithwyr.

Beth ydych chi’n ei fwynhau fwyaf am eich gwaith?

Mae natur ddeinamig cyfraith treth yn fy nghadw ar flaenau fy nhraed; mae’n datblygu’n barhaus ac yn cyflwyno heriau a chyfleoedd newydd i ddeall a llywio. Yr hyn sy’n rhoi’r boddhad mwyaf i mi yw’r her o rannu materion cymhleth yn gyngor hydrin a dealladwy i’m cleientiaid. Mae’n ymwneud ag ychwanegu gwerth gwirioneddol at eu mentrau a gweld yr effaith wirioneddol ar eu llwyddiant.

Rob Thomas, Partner Treth

Allwch chi rannu uchafbwynt gyrfa gyda ni?

Un o adegau diffiniol fy ngyrfa oedd pasio arholiadau cynghorydd treth siartredig ac ennill gwobr LexisNexis am ennill y marciau uchaf mewn dau arholiad. Mae’r arholiadau yn enwog o anodd, ac roedd yn gyfnod arbennig o heriol i mi, wrth gydbwyso gofynion gwaith cwmni cyfreithiol rhyngwladol ag oriau astudio diddiwedd. Rhoddais bopeth i mewn i’m hastudiaethau, ond dychmygais fyth y byddwn i’n ennill gwobr – roedd fy ffocws bob amser ar basio gyda’r marc gorau y gallwn. Ni sylweddolais bryd hynny, ond roedd yn bwynt canolog yn fy nhaith broffesiynol, gan ychwanegu at fy enw da fel cynghorydd treth ac yn bwysicach fyth, rhoi hunanhyder ddyfnach i mi yn fy ngalluoedd.

Ar ben arall y sbectrwm, digwyddiad arbennig o swrrealaidd oedd ymuno â galwad wedi gwisgo fel carw tra mewn digwyddiad rygbi saith bob ochr! Roedd yn un o’r adegau hynny a roddodd bersbectif ar bopeth – cydbwyso proffesiynoldeb ac ymroddiad i’ch gwaith wrth gofio pwysigrwydd peidio â chymryd eich hun ormod o ddifrif!

Beth yw eich agwedd at feithrin perthynas gref â chleientiaid?

I mi, mae’n ymwneud ag empathi a deall anghenion a nodau unigryw pob cleient. Rwy’n ymdrechu i edrych y tu hwnt i’r dreth a deall busnes cleient a’r sector ehangach y maent yn gweithredu ynddo. Fel hynny, gallaf sicrhau bod fy nghyngor treth yn hawdd ei ddeall ac wedi’i deilwra ar gyfer eu hamgylchedd busnes. Trwy roi fy hun yn esgidiau fy nghleientiaid, gallaf werthfawrogi eu safbwyntiau, eu heriau, a’r canlyniadau y maent yn anelu atynt yn well. Rwy’n cymryd diddordeb gwirioneddol yn llwyddiant a thwf mentrau fy nghleientiaid, gan ddathlu eu cyflawniadau a cheisio bod yn bresenoldeb cyson ar adegau o her.

Beth sy’n cynnal eich cymhelliant?

Yr hyn sy’n cynnal fy nghymhelliant yw’r her o fod yn gyfoes â’r datblygiadau cyson yn y dirwedd dreth a’r cyfle i ddatrys problemau newydd a chymhleth i’m cleientiaid. Mae’n deg dweud nad yw dau ddiwrnod byth yr un fath i gynghorydd treth, ac mae’r boddhad o ddehongli cyfreithiau treth cymhleth i roi cyngor clir a chyfreithiadwy yn tanio fy angerdd am fy ngwaith.

Rwyf hefyd yn teimlo yn angerddol dros fentora’r genhedlaeth nesaf o weithwyr treth proffesiynol. Rwyf bob amser yn fwy na pharod i rannu fy ngwybodaeth a’m profiad, ac mae eu gwylio wrth iddynt dyfu a llwyddo yn eu gyrfaoedd, boed ym maes treth neu unrhyw faes arall o’r gyfraith, yn rhoi cymaint o foddhad ag unrhyw un o’m cyflawniadau proffesiynol.

Beth sy’n eich gyrru chi y tu allan i’r gwaith, a sut ydych chi’n cydbwyso bywyd gwaith â’ch diddordebau?

Rwy’n cael fy ysgogi gan fy nghariad at yr awyr agored a threulio amser gyda fy nheulu. Mae teulu yn rhan fawr o fy mywyd, ac i mi, mae cydbwysedd iach rhwng bywyd gwaith a chartref yn hanfodol bwysig i sicrhau hapusrwydd personol ac mai fi yw fy hunan proffesiynol gorau yn y gwaith. Mae byw yn Nhalacharn yn golygu fy mod yn agos at fy nheulu a ffrindiau, a fy mod yn rhan o gymuned glos. Rwy’n hoffi cadw’n heini, boed hynny’n mynd i’r gampfa, rhedeg ar hyd yr aber yn Nhalacharn neu gerdded llwybr arfordir sir Benfro. Dros fy mhechodau, mae gen i hefyd docyn tymor i wylio’r Scarlets.

Pa gyngor fyddech chi’n ei rannu â darpar gyfreithwyr?

Yn gyntaf, achubwch ar y cyfleoedd amrywiol y mae’r maes cyfreithiol yn eu cynnig. Dychmygais erioed arbennigo yng nghyfraith treth, ond cipiais y cyfleoedd a ddaeth fy ffordd ac nid wyf erioed wedi edrych yn ôl.

Yn ail, peidiwch byth â thanbrisio pwysigrwydd sgiliau meddal ochr yn ochr â’ch arbenigedd cyfreithiol technegol. Mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol, i gydymdeimlo â chleientiaid, ac i feithrin perthnasoedd cryf yn amhrisiadwy.

Mae mentoriaeth yn elfen hollbwysig arall. Chwiliwch am fentoriaid a all eich arwain, a all rannu eu craffter, a’ch helpu i lywio’ch llwybr gyrfa. Ond cofiwch, mae mentoriaeth yn stryd ddwyffordd. Byddwch yn rhagweithiol yn eich dysgu, gofynnwch gwestiynau, ac achubwch ar bob cyfle i amsugno gwybodaeth gan y sawl sydd o’ch cwmpas. I grynhoi, byddwch yn agored i ddysgu, arhoswch yn chwilfrydig, a pheidiwch ag ofni naddu eich llwybr eich hun. Mae’r gyfraith yn eang ac yn amrywiol, ac mae lle i lawer o wahanol fathau o lwyddiant.

Am ragor o wybodaeth am Rob Thomas, cliciwch yma.