Yr Iaith Gymraeg yn y Llys Gwarchod
Y dyfarniad cyntaf gan y Llys Gwarchod i gael ei chyhoeddi yn y Gymraeg. Gan obaith, dyma’r cyntaf o lawer.
Yn dilyn achos cyfreithiol yn y Llys Gwarchod o dan adran 21A Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (“her adran 21A”), cyhoeddodd y Llys ei farn yn TIRE v Cyngor Sir Caerfyrddin [2024] EWCOP 81 (T2) (‘TIRE v CSC’) yn y Gymraeg – yr achos cyntaf o’i fath.
Ymddengys fod yr her adran 21A yn un syml, oedd yn ymwneud ag anhapusrwydd TIRE yn ei chartref gofal presennol. Ystyriodd y Llys safbwynt TIRE a’r effaith y byddai penderfyniad i aros yn y cartref gofal yn ei chael arni, a phenderfynodd y Llys y byddai er ei lles gorau i aros yn ei lleoliad presennol yn y cartref gofal.
Crëwyd Cyfarwyddyd Ymarfer 2D o Reolau’r Llys Gwarchod (‘CY 2D’) i gyd-fynd â Chyfarwyddyd Ymarfer y Rheolau Gweithdrefn Sifil sy’n ymwneud â defnyddio’r iaith Gymraeg mewn achosion yn y Llysoedd Sifil yng Nghymru neu sydd â chysylltiad â Chymru. Diben y Cyfarwyddyd Ymarfer hwn yw adlewyrchu egwyddorion Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 a Mesur yr Iaith Gymraeg (Cymru) 2011, sef, wrth weinyddu cyfiawnder yng Nghymru, y dylid trin y Saesneg a’r Gymraeg ar y sail eu bod yn gyfartal.
Mae paragraff 1.1 o CY 2D yn cadarnhau ymhellach y dylid trin y Saesneg a’r Gymraeg ‘ar sail cydraddoldeb’ a rhoddodd achos TIRE v CSC yr egwyddorion hyn ar waith.
Mae hwn yn ddatblygiad arwyddocaol yn achos yn nefnydd yr iaith Gymraeg mewn achosion gerbron y Llys Gwarchod. Gan obaith, dyma fydd yr achos cyntaf o nifer i’w clywed, a’u cyhoeddi yn y Gymraeg.
Mae gan Blake Morgan y gallu arbenigol i gynghori cleientiaid drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Os hoffech drafod y cynnig hwn ymhellach, cysylltwch â Daniel Taylor.
Mae’r erthygl hon ar gael yn y Saesneg a’r Gymraeg. Cliciwch yma i ddarllen yr erthygl hon yn y Saesneg/Click here to view the English language version.
Enjoy That? You Might Like These:
articles
events
events