Blake Morgan’s Cardiff office has raised more than £10,000 for Wales Air Ambulance, surpassing its fundraising target and bringing a successful two-year Charity of the Year partnership to a close.

This press release is available in both English and Welsh language versions below. 

The UK law firm presented a cheque for £10,367 to Wales Air Ambulance during a visit to Cardiff Heliport on 20 July. Colleagues Lee Fisher, Isabelle Mann and Menglin Li attended the presentation, alongside Abi Pearce, Corporate Partnerships Manager at Wales Air Ambulance.

The final total exceeded the office’s original fundraising target of £10,000 and includes donations collected through the charity’s donation box.

Wales Air Ambulance is consultant-led, taking hospital-standard treatments to the patient and, if required, transferring them directly to the most appropriate hospital for their illness or injury.

It is delivered via a unique third sector and public sector partnership. The Wales Air Ambulance Charity relies on public donations to raise the £13 million required every year to keep the helicopters in the air and rapid response vehicles on the road.

The Emergency Medical Retrieval and Transfer Service (EMRTS) supplies highly skilled NHS consultants and critical care practitioners who work on board the Charity’s vehicles.

This advanced critical care includes the ability to administer anaesthesia, deliver blood transfusions and conduct minor operations, all at the scene of an incident.

As a pan-Wales service, its dedicated crews, regardless of where they are based, will travel the length and breadth of the country to deliver emergency critical care.

Over the course of the partnership, colleagues across Blake Morgan’s Cardiff office came together to support a wide range of fundraising initiatives.

Activities included welcoming a Wales Air Ambulance crew member and former patient to learn more about the charity’s work, alongside a coastal path walk, the Taff Trail trek, sporting sweepstakes and a festive partner auction.

The fundraising effort reflects the firm’s commitment to supporting the communities in which it operates and demonstrates the enthusiasm of colleagues for making a positive impact beyond the workplace.

Delme Griffiths, CSR Partner at Blake Morgan, said:

We are incredibly proud to have supported Wales Air Ambulance over the past two years and delighted to have exceeded our fundraising target.

The charity provides an essential service to communities across Wales, and it has been a privilege for colleagues across our Cardiff office to contribute to its important work.

This achievement is the result of a fantastic team effort. From sponsored walks and fundraising events to donations and volunteering support, colleagues have embraced the partnership and helped raise vital funds for a cause that means so much to so many people.

Abi Pearce, Corporate Partnerships Manager at Wales Air Ambulance, said:

We are extremely grateful to everyone at Blake Morgan's Cardiff office for their support over the past two years.

Fundraising partnerships like this are very important! They not only raise key funds but also raise awareness of the standard of prehospital care we are providing each day.

We can continue to be there for the people of Wales, whenever and wherever they need us, because of collaborations like this.

Raising more than £10,000 is a fantastic achievement and will make a lifesaving difference. Diolch yn fawr!

The partnership concludes having raised valuable funds and awareness for one of Wales’ most recognisable charities, helping to support its mission of bringing hospital-standard care directly to patients at the scene of serious illness or injury.

Blake Morgan is committed to making a positive difference in the communities it serves through charitable fundraising, volunteering and community partnerships across its offices in Wales, England and beyond. To find out more about the firm, visit the Blake Morgan website. Discover more about the Wales Air Ambulance here.

Swyddfa Caerdydd Blake Morgan yn codi mwy na £10,000 i Ambiwlans Awyr Cymru wrth i bartneriaeth ddwy flynedd ddod i ben

Mae swyddfa Caerdydd Blake Morgan wedi codi mwy na £10,000 i Ambiwlans Awyr Cymru, gan ragori ar ei tharged codi arian a dod â phartneriaeth lwyddiannus Elusen y Flwyddyn a barodd ddwy flynedd i ben.

Cyflwynodd y cwmni cyfreithiol y DU siec gwerth £10,367 i Ambiwlans Awyr Cymru yn ystod ymweliad â Heliport Caerdydd ar 20 Gorffennaf. Roedd y cydweithwyr Lee Fisher, Isabelle Mann a Menglin Li yn bresennol yn y cyflwyniad, ynghyd ag Abi Pearce, Rheolwr Partneriaethau Corfforaethol yn Ambiwlans Awyr Cymru.

Roedd y cyfanswm terfynol yn uwch na tharged codi arian gwreiddiol y swyddfa o £10,000 ac mae’n cynnwys rhoddion a gasglwyd drwy flwch rhoddion yr elusen.

Mae’r elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan ymgynghorwyr, sy’n darparu triniaethau o safon ysbyty i gleifion ac, os oes angen, yn eu trosglwyddo’n uniongyrchol i’r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer eu salwch neu eu hanaf.

Mae’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu drwy bartneriaeth unigryw rhwng y trydydd sector a’r sector cyhoeddus. Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu ar roddion gan y cyhoedd i godi’r £13 miliwn sydd ei angen bob blwyddyn er mwyn cadw’r hofrenyddion yn yr awyr a’r cerbydau ymateb cyflym ar y ffyrdd.

Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu ymgynghorwyr hynod fedrus y GIG ac ymarferwyr gofal critigol sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen.

Mae’r gofal critigol uwch hwn yn cynnwys y gallu i roi anesthesia, darparu trallwysiadau gwaed a chynnal mân lawdriniaethau, i gyd yn lleoliad y digwyddiad.

Fel gwasanaeth Cymru gyfan, bydd ei griwiau ymroddedig, waeth ble y maent wedi’u lleoli, yn teithio ledled y wlad i ddarparu gofal critigol brys.

Yn ystod cyfnod y bartneriaeth, daeth cydweithwyr ar draws swyddfa Caerdydd Blake Morgan ynghyd i gefnogi ystod eang o fentrau codi arian.

Roedd y gweithgareddau’n cynnwys croesawu aelod o griw Ambiwlans Awyr Cymru a chyn-glaf i ddysgu mwy am waith yr elusen, ynghyd â thaith gerdded ar hyd llwybr yr arfordir, taith gerdded ar hyd Llwybr Taf, rafflau chwaraeon ac arwerthiant Nadoligaidd â phartneriaid.

Mae’r ymdrech codi arian yn adlewyrchu ymrwymiad y cwmni i gefnogi’r cymunedau y mae’n gweithredu ynddynt ac yn dangos brwdfrydedd cydweithwyr i wneud gwahaniaeth cadarnhaol y tu hwnt i’r gweithle.

Dywedodd Delme Griffiths, Partner Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol (CSR) yn Blake Morgan:

Rydym yn hynod falch o fod wedi cefnogi Ambiwlans Awyr Cymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac yn falch iawn ein bod wedi rhagori ar ein targed codi arian.

Mae'r elusen yn darparu gwasanaeth hanfodol i gymunedau ledled Cymru, ac mae wedi bod yn fraint i gydweithwyr ar draws ein swyddfa yng Nghaerdydd gyfrannu at ei gwaith pwysig.

Mae'r cyflawniad hwn yn ganlyniad i ymdrech wych gan y tîm. O deithiau cerdded noddedig a digwyddiadau codi arian i roddion a chefnogaeth wirfoddol, mae cydweithwyr wedi cofleidio'r bartneriaeth ac wedi helpu i godi arian hanfodol ar gyfer achos sy'n golygu cymaint i gynifer o bobl.

Dywedodd Abi Pearce, Rheolwr Partneriaethau Corfforaethol yn Ambiwlans Awyr Cymru:

Rydym yn hynod ddiolchgar i bawb yn swyddfa Caerdydd Blake Morgan am eu cefnogaeth dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Mae partneriaethau codi arian fel hyn yn bwysig iawn! Maent nid yn unig yn codi arian hanfodol, ond hefyd yn codi ymwybyddiaeth o safon y gofal cyn ysbyty rydym yn ei ddarparu bob dydd.

Gallwn barhau i fod yno i bobl Cymru, pryd bynnag a ble bynnag y byddant ein hangen, oherwydd cydweithrediadau fel hyn.

Mae codi mwy na £10,000 yn gyflawniad gwych a bydd yn gwneud gwahaniaeth a fydd yn achub bywydau. Diolch yn fawr!

Daw’r bartneriaeth i ben ar ôl codi arian gwerthfawr a chynyddu ymwybyddiaeth o un o elusennau mwyaf adnabyddus Cymru, gan helpu i gefnogi ei chenhadaeth o ddarparu gofal o safon ysbyty yn uniongyrchol i gleifion yn lleoliad yr argyfwng.

Mae Blake Morgan wedi ymrwymo i wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn y cymunedau y mae’n eu gwasanaethu drwy godi arian at ddibenion elusennol, gwirfoddoli a meithrin partneriaethau cymunedol ar draws ei swyddfeydd yng Nghymru, Lloegr a thu hwnt. I ddysgu mwy am y cwmni, ewch i wefan Blake Morgan. Dysgwch ragor am Ambiwlans Awyr Cymru yma.

Looking for a career in law?

See what we have to offer at Blake Morgan

Discover more here