Women in Property announces new South Wales Chair


Posted on 17th March 2023

Blake Morgan Associate Rhiannon Peploe-Williams has been announced as the new Chair of Women in Property South Wales.

This is available in both English and Welsh language versions below.

Rhiannon from Blake Morgan’s Real Estate team in Cardiff who has been appointed to Branch Chair of Women in Property South Wales with effect from 1 March 2023 for one year, with the potential to continue to grow and evolve the branch.

Rhiannon’s relationship with Women in Property South Wales spans five years, initially she joined as a committee member and was promoted to Vice Chair in 2021 prior to her going on maternity leave. In both her professional life and through her voluntary roles, Rhiannon is committed to the ethos behind Women in Property. In a recent article for Business News Wales, Rhiannon commented:

Everything Women in Property is about chimes with the principles of social value. We have always been committed to inclusion, engagement and an equitable society, so what a great time to be taking on the branch Chair role, coinciding with worldwide International Women’s Day celebrations.

She added: “Women in Property South Wales strives to inspire women in the Built Environment to reinforce existing professional connections and make new ones. We are focused on reviving professional relationships following the pandemic by encouraging our members to join our in-person events. I am thrilled to be 2023 Chair and looking ahead at a very exciting year, starting with International Women’s Day and its theme ’embracing equity to reach equality’. Our branch will continue to support our members with the tools and means to achieve gender equity by offering ongoing professional development, networking events, mentoring schemes and our annual Student Awards.”

Women in Property South Wales has also announced its Vice Chair for 2023/24, Hannah Lewis-Jones Business Development Director of HKS. Hannah will support Rhiannon over the course of the next year before becoming Chair in 2024.

In addition to its South Wales ‘in person’ events there are other ways you can get involved, Women in Property runs a national webinar programme, with many events being CPD accredited. The organisation is holding its first national conference in twenty years, in Bristol on 20 April under the banner Women leading the future. Sessions will include Inclusive Design and Public Realm, Social Anthropology, Mentoring and the Psychology of Business, as well as a panel discussion, followed by dinner with a live band and all open to both members and non-members, of all genders.

On 1 March Rhiannon hosted her first event as Chair, the branches 2023 AGM in the Blake Morgan Cardiff office. The event was well attended and was a great start to Rhiannon’s first year as Chair.

The Women in Property 2023 committee.

The Women in Property 2023 committee.

MERCHED MEWN EIDDO YN CYHOEDDI CADEIRYDD NEWYDD DE CYMRU

Mae Rhiannon Peploe-Williams, cyfreithiwr yn Blake Morgan, wedi’i chyhoeddi yn Gadeirydd newydd Merched mewn Eiddo De Cymru.

Mae Rhiannon o dîm EiddoBlake Morgan yng Nghaerdydd wedi’i phenodi’n Gadeirydd Cangen Merched mewn Eiddo De Cymru o 1 Mawrth 2023 am flwyddyn, gyda’r potensial i barhau i dyfu a datblygu’r gangen.

Mae perthynas Rhiannon â Merched mewn Eiddo De Cymru yn ymestyn dros bum mlynedd. Ymunodd i ddechrau fel aelod pwyllgor a chafodd ei dyrchafu yn Is-Gadeirydd yn 2021 cyn iddi fynd ar absenoldeb mamolaeth. Yn ei bywyd proffesiynol a thrwy ei rolau gwirfoddol, mae Rhiannon wedi ymrwymo i’r ethos y tu ôl i Ferched mewn Eiddo. Mewn erthygl ddiweddar ar gyfer ‘Business News Wales’, dywedodd Rhiannon:

“Mae popeth sy’n gysylltiedig â Merched mewn Eiddo yn gyson ag egwyddorion gwerth cymdeithasol. Rydym wedi bod yn ymroddedig erioed i gynhwysiant, ymgysylltu a chymdeithas deg, felly am amser gwych i ymgymryd â rôl Cadeirydd y gangen, i gyd-daro â dathliadau Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ledled y byd.”

Ychwanegodd: “Mae Merched mewn Eiddo De Cymru yn ymdrechu i ysbrydoli merched yn yr Amgylchedd Adeiledig i atgyfnerthu cysylltiadau proffesiynol presennol ac i wneud rhai newydd. Rydym yn canolbwyntio ar adfywio perthnasoedd proffesiynol yn dilyn y pandemig trwy annog ein haelodau i ymuno â’n digwyddiadau wyneb yn wyneb. Rwy’n falch iawn o fod yn Gadeirydd 2023 ac yn edrych ymlaen at flwyddyn gyffrous iawn, gan ddechrau gyda Diwrnod Rhyngwladol y Menywod a’i thema ‘cofleidio tegwch i sicrhau cydraddoldeb’. Bydd ein cangen yn parhau i gefnogi ein haelodau gyda’r offer a’r modd i sicrhau tegwch rhwng y rhywiau trwy gynnig datblygiad proffesiynol parhaus, digwyddiadau rhwydweithio, cynlluniau mentora a’n Gwobrau Myfyrwyr blynyddol.”

Mae Merched mewn Eiddo De Cymru hefyd wedi cyhoeddi ei Is-Gadeirydd ar gyfer 2023/24, sef Hannah Lewis-Jones, Cyfarwyddwr Datblygu Busnes HKS. Bydd Hannah yn cefnogi Rhiannon dros y flwyddyn nesaf cyn dod yn Gadeirydd yn 2024.

Yn ogystal â’i ddigwyddiadau ‘wyneb yn wyneb’ yn Ne Cymru, mae ffyrdd eraill y gallwch gymryd rhan. Mae Merched mewn Eiddo yn cynnal rhaglen weminar genedlaethol, gyda llawer o ddigwyddiadau wedi’u hachredu gan CPD. Mae’r gymdeithas yn cynnal ei gynhadledd genedlaethol gyntaf ers ugain mlynedd ym Mryste ar 20 Ebrill o dan y faner Merched yn arwain y dyfodol. Bydd y sesiynau yn cynnwys Dylunio Cynhwysol a Thir y Cyhoedd, Anthropoleg Gymdeithasol, Mentora a Seicoleg Busnes, yn ogystal â thrafodaeth banel, ac yna cinio gyda band byw. Bydd yn agored i aelodau a’r rhai nad ydynt yn aelodau, i bawb o bob rhyw.

Ar 1 Mawrth cynhaliodd Rhiannon ei digwyddiad cyntaf fel Cadeirydd, sef cyfarfod cyffredinol blynyddol 2023 y gangen yn swyddfa Caerdydd Blake Morgan. Roedd nifer dda yn bresennol yn y digwyddiad ac roedd yn ddechrau gwych i flwyddyn gyntaf Rhiannon fel Cadeirydd.

Speak to one of our property law experts

Arrange a call

Enjoy That? You Might Like These:


3 May
Leading law firm Blake Morgan has announced the promotions of three of its lawyers to Partner. Simon Lewis, Charlotte Whitehead, and Tomos Lewis took up their new positions on 1... Read More
29 April
Blake Morgan collaborated with GROW Mentoring to host aspiring lawyers at our London office last month for a day of exclusive insights, interactive sessions and networking. Read More
25 April
Blake Morgan has been named a finalist in the prestigious Insider Wales Property Awards ‘Property Law Firm of the Year’ category. Read More